Amgueddfa Clwb Pêl Droed Barcelona
27th February 2019
|By aclouise
Mae’r Amgueddfa Hanes yn stadiwm wych clwb pêl-droed Barcelona yn olrhain hanes hir a llwyddiannus y clwb. Gallwch weld y tlysau di-ri y mae’r clwb wedi’u hennill, archifau ffotograffau, deunydd chwaraeon a sioeau clyweled. Yn yr Oriel Gelf gallwch weld gweithiau rhai o artistiaid enwocaf Sbaen, gan gynnwys Dalí a Miró, sydd wedi’u cyflwyno i’r clwb dros y blynyddoedd. Y Collecció Futbolart – arddangosfa Pablo Ornaque – yw un o’r casgliadau preifat gorau o wrthrychau pêl-droed.