Montserrat

Encilfa i Fynachod Benedictaidd yn y mynyddoedd uwchlaw Barcelona yw Montserrat lle gallwch fwynhau golygfeydd eithriadol o Gatalunya. Sefydlwyd y Mynachdy ar safle lle y dywedwyd i’r Forwyn Fair ymddangos. Saif mewn safle gwych yng nghanol y mynyddoedd garw a gellir ei gyrraedd ar reilffordd gul. Gallwch fwynhau perfformiad gan fechgyn côr Montserrat, sy’n fyd-enwog am ganu salmdonau Gregoraidd, am ddim yn y Basilica am 13:00 bob dydd.