Yr Amgueddfa Iddewig

Pedair hen synagog yw cartref yr Amgueddfa Iddewig. Adeiladwyd yr hynaf o’r pedair synagog ym 1670. Am fod y gymuned Iddewig yn parhau i gynyddu, adeiladwyd synagog newydd wrth ochr y gyntaf. Cyn pen dim, rhaid oedd adeiladu trydedd, a phedwaredd ym 1752. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd y synagogau eu dinistrio’n rhannol gan y Natsïaid.
Ni ddaeth llawer o Iddewon Amsterdam yn ôl o’r gwersylloedd crynhoi. O ganlyniad caewyd y synagogau ym 1987 ac addaswyd hwy i greu’r amgueddfa fel y gwelwch hi’n awr. Mae toeau gwydr yn cysylltu’r pedair synagog. Mae gwahanol arddangosfeydd yn canolbwyntio ar hanes a diwylliant yr Iddewon yn yr Iseldiroedd. Mae’r synagog fwyaf newydd yn olrhain hanes hunaniaeth Iddewig a blynyddoedd y rhyfel, tra bod y synagog hynaf yn arddangos gwahanol agweddau ar Iddewiaeth.


Teml Fwdhaidd Fo Guang Shan

Mae Teml Fwdhaidd Fo Guang Shan wedi ei lleoli yng nghanol dinas Amsterdam a’i hardal Tsieniaidd. Caiff y deml ei defnyddio fel canolfan fyfyrdod ac mae modd mynd ar daith dywys o amgylch y deml. Mae’r teils ar do’r deml a’r addurniadau o gwmpas y ganolgan wedi eu cludo o Tsieina.


Begijnhof

Casgliad o adeiladau bychain yw’r Begijnhof oedd yn cael eu ddefnyddio gan Beguines, sef grwpiau o ferched oedd yn awyddus i wasanaethu Duw yn debyg i leianod ond heb ymwrthod â’r byd y tu allan. Mae adeiladau’r Begijnhof a’r capel mewn clos tawel a heddychlon, sydd yn lleoliad perffaith i weddïo a myfyrio. Hwn yw’r unig glos yn Amsterdam sy’n dyddio’n ôl i’r Oesoedd Canol ac mae lefel y llawr tua metr yn is na lefel stryd arferol y ddinas. Cafodd y ffasadau gwreiddiol oedd yn dyddio o’r 14eg ganrif eu newid yn y 17eg a’r 18fed ganrif ond mae gan ddeunaw o’r tai fframiau pren Gothig gwreiddiol. Ar ôl i’r Protestaniaid gymryd rheolaeth o’r ddinas ym 1578, dyma’r unig sefydliad Pabyddol i aros ar agor. Roedd capel Begijnhof, er hynny, ar gau am tua 30 mlynedd cyn i’r Presbyteriaid o Loegr ei feddiannu. Byth ers hynny caiff y capel ei adnabod fel yr Eglwys Seisnig.


Y Synagog Bortiwgeaidd

Y Synagog Bortiwgeaidd hardd, neu’r Esnoga, yw un o gymynroddion pwysicaf y gymuned Iddewig fywiog a arferai fod yn Amsterdam. Tan i’r Holocost eu difa, Iddewon oedd deg y cant o boblogaeth Amsterdam. Yn ystod yr 16eg ganrif a’r 17eg ganrif, dihangodd llawer o Iddewon a oedd yn wynebu erledigaeth yn Sbaen a Phortiwgal i Amsterdam. Nid oedd y goddefgarwch crefyddol a fwynhaent yng Ngweriniaeth yr Iseldiroedd yn bod yng ngweddill Ewrop.


Westerkerk

Mae’r eglwys wych hon sy’n dyddio o’r 17eg ganrif ac wedi’i hadeiladu yn arddull
y Dadeni yn un o dirnodau pwysicaf y ddinas. Mae ei thŵr, gyda’i goron a phelen
las drawiadol yn ogystal â’i geiliog y gwynt euraidd, yn arbennig o drawiadol.
Dyma lle y priododd y Frenhines Beatrix ym 1966 a dyma hefyd, yn ôl y sôn, yw lle
mae Rembrandt wedi’i gladdu. Gall ymwelwyr egniol ddringo’r grisiau i’r tŵr, sy’n
85 metr/276 troedfedd uwchlaw’r ddinas, i weld y clychau a mwynhau’r olygfa ogoneddus o Amsterdam.


Amgueddfa Van Gogh

Yn yr amgueddfa hon y ceir y casgliad helaethaf o weithiau Vincent van Gogh. Mae amrywiaeth y gweithiau yn olrhain datblygiad arddull yr artist yn ystod ei yrfa ac yn cyferbynnu ei waith ef ag eiddo’i gyfoeswyr. Mae pob math o weithgareddau ar gyfer disgyblion ysgol yn yr amgueddfa a helfeydd trysor wedi’u trefnu. Mae’n bosib trefnu taith dywys neu gellir cael taith sain i’ch arwain o gwmpas y gweithiau pwysicaf.


Amgueddfa Rijks

Amgueddfa Rijks yn Amsterdam yw amgueddfa gelf a hanes fwyaf yr Iseldiroedd ac mae’n gartref i tua miliwn o arddangosion. Mae’n enwog yn bennaf am ei bod yn gartref i gasgliad amhrisiadwy o feistri’r Iseldiroedd yr 17eg ganrif, gan gynnwys ugain o weithiau Rembrandt a gweithiau arlunwyr eraill o’r un cyfnod, fel Vermeer, Frans Hals a Jan Steen.


Amgueddfa Rembrandt

Mae Amgueddfa Tŷ Rembrandt yn adeilad hardd sy’n dyddio o 1606 a dyma lle’r oedd yr arlunydd enwog yn byw a gweithio. Mae gan yr amgueddfa gasgliad cwbl gyflawn fwy neu lai o ysgythriadau Rembrandt. Mae’r detholiad sy’n cael eu harddangos yn yr amgueddfa’n newid yn rheolaidd. Gallwch hefyd ddysgu am arddull ysgythru’r 17eg ganrif yn ogystal â’r broses argraffu a chelfyddyd graffig yn yr amgueddfa.


Amgueddfa Kroller-Muller

Wedi’i lleoli mewn amgylchedd naturiol a gerddi wedi’u tirlunio, mae casgliad yr amgueddfa hon yn eang ac mae’n cynnwys casgliadau arwyddocaol gan Vincent van Gogh, Georges Seurat, Pablo Picasso, Leger, Piet Mondrian a Christo.


Amgueddfa Stedelijk

Dyma ganolfan celfyddyd gyfoes Amsterdam. Mae ei chasgliadau parhaol yn amrywio o de Stiji, Matisse i gelfyddyd bop America.


Madame Tussauds

Mae i’r adeilad dri llawr, gydag un wedi’i neilltuo ar gyfer ail-greu’r Iseldiroedd yn ystod Oes Aur yr 17eg ganrif. Cerddwch i lawr strydoedd Amsterdam yr oes a fu a gwyliwch ffigurau hanesyddol fel Rembrandt a Vermeer yn 3D wrth iddyn nhw baentio rhai o’u gweithiau enwocaf.
Cewch weld ‘selebs’ ein dydd yno hefyd a chewch dynnu’ch llun gydag un ohonyn nhw!


Taith ar y Gamlas

Cyfle i fwynhau gogoniannau’r ddinas o’r dŵr wrth i’r cwch deithio heibio rhai o atyniadau hyfrytaf y ddinas. Mae tair taith i gyd trwy’r ddinas a chewch sylwebaeth lawn. Mae pob taith yn dechrau ac yn diweddu yn yr orsaf drenau ganolog.


Taith o gwmpas Stadiwm Ajax

Mae ‘Byd Ajax’ yn daith dywys sy’n rhoi golwg i chi ar hanes y tîm pêl-droed hanesyddol hwn. Mae’r daith hefyd yn cynnwys ymweliad â’r amgueddfa lle mae’n bosibl gweld llu o dariannau a chwpanau Ajax yn ogystal â chrysau, lluniau a phob math o drugareddau eraill.


The Heineken Experience

Mae bragdy gwreiddiol Heineken yn Amsterdam a’i adeiladau yn cwmpasu dwy ganrif ac wedi’i leoli yn un o ganolfannau treftadaeth ddiwydiannol hynotaf y ddinas. Cyfle i ddysgu mwy am hanes cyfoethog Heineken ac am grefft bragu cwrw a chlywed hanes y bobl y tu ôl i’r cwmni anhygoel hwn sy’n un o’r cwmnïau rhyngwladol enwocaf o’i fath.


Tŷ Anne Frank

Mae’n rhaid ymweld â thŷ Anne Frank, ond gall fod yn brofiad dirdynnol. Yn yr adeilad disylw hwn y cuddiodd Anne a saith aelod o’i theulu yn ystod y cyfnod pan oedd yr Iseldiroedd ym meddiant y Natsïaid ac yno yr ysgrifennodd ei dyddiadur.