CERN
Canolfan Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear CERN yw un o ganolfannau mwyaf uchel ei pharch yn y byd o ran ymchwil gwyddonol. Yn ystod taith dywys hanner diwrnod, mae cyfle i ddysgu sut mae'r bydysawd yn gweithio ac o beth mae wedi'i wneud, yn ogystal â gweld gwaith labordy ffiseg mwya'r byd. Gall y teithiau gynnwys unrhyw un o'r pynciau canlynol: Gronynnau Cyflymu, Darganfod Gwrthfater and Thechnoleg Gwybodaeth, Cyfrifiadau a Chyfathrebu. Mae dwy arddangosfa barhaol i'w gweld hefyd, sef Universe of Particles a Microcosm. Mae'n bwysig nodi bod angen i bob ymweliad â CERN gael ei archebu'n uniongyrchol gan yr ysgol.
Musée d'histoire des sciences de la ville de Genève
Amgueddfa fach sydd wedi ei chysegru i hanes gwyddoniaeth yw'r musée d'histoire des sciences de la ville de Genève. Mae'r amgueddfa wedi ei lleoli yn Villa Bartholoni, a gafodd ei dylunio gan Félix-Emmanuel Callet a'i adeiladu yn 1830 fel tŷ haf i fancwyr o Baris, Constant and Jean-François Bartholoni. Cafodd y fila ei hadnewyddu'n llwyr rhwng 1985 ac 1992. Mae wedi ei lleoli yn y Parc de la Perle du Lac sy'n edrych i lawr ar Lyn Genefa, ac sydd nesaf i Dŷ Gwydr a Gardd Fotaneg dinas Genefa. Mae'r fila a'r amgueddfa wedi eu rhestru yn Rhestr y Swistir o Eiddo Diwylliannol o Bwysigrwydd Cenedlaethol a Rhanbarthol.
Jet d'eau, Genefa
Ffynnon fawr yng nghanol Genefa yw'r jet d'eau ac mae'n un o atyniadau mwyaf enwog y ddinas. Mae i'w weld ar wefan dwristiaeth swyddogol y ddinas ac roedd hefyd yn rhan o'r logo pan groesawodd Genefa Bencampwriaeth UEFA i'r ddinas yn 2008. Mae'r ffynnon wedi ei lleoli yn y man ble mae dŵr Llyn Genefa'n mynd allan i'r Rhône a gellir ei weld o bobman yn y ddinas ac o'r awyr, hyd yn oed wrth hedfan uwchben Genefa ar uchder o 10 cilomedr. Mae pum can litr o ddŵr yn cael eu pwmpio i'r awyr pob eiliad ac mae’n werth gweld y dŵr yn saethu i fyny’n uchel uwchlaw’r ddinas. Mae newid sydyn yn y gwynt yn gallu achosi i rai ymwelwyr ddod oddi yno yn wlyb at eu croen, fodd bynnag, felly mae gofyn bod yn ofalus!
Amgueddfa'r Groes Goch Ryngwladol a'r Cilgant Coch
Mae arddangosfa barhaol yr amgueddfa, The Humanitarian Adventure, yn gyfle gwych i edrych ar waith dyngarol ymhob cwr o'r byd. Mae'r arddangosfa'n canolbwyntio ar dair thema - pob un wedi'i seilio ar heriau sy'n wynebu gwaith dyngarol yn y byd modern. Maent wedi eu cyflwyno mewn tri gofod gwahanol, pob un wedi'i ddylunio gan bensaer gwahanol.
Argae Emosson
Argae Emosson yw un o’r cynlluniau pŵer hydro-electrig mwya anhygoel yn Ewrop ac mae wedi ei leoli uwchben pentref bach yn y Swistir o’r enw Chatelard. Prif nodwedd y safle yw rhwystr loc mawr sy'n cau cafn ia Emosson yn erbyn y prif ddyffryn. Mae modd teithio i waelod yr argae mewn sawl ffordd wahanol, gan ryfeddu at ei chynllun a’i hadeiladwaith. Gallwch fynd ar drên bach o Chateau d’Eau neu ar reilffordd ffwnicwlar ac mae pob dull yn cynnig golygfeydd cofiadwy o’r ardal brydferth hon.
Aiguille du Midi
Os ydych chi'n awyddus i deithio ychydig ymhellach i gyfeiriad yr Alpau, mae'n werth ymweld â'r Aiguille du Midi. Mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid a gellir teithio i gopa’r Aiguille du Midi ar y car cebl o dref Chamonix, sydd yn mynd â chi mor uchel â 3842 o fetrau uwchben lefel y môr. O’r fan hon, gellir gweld rhai o gopaon mwyaf enwog Alpau Ffrainc, Yr Eidal a’r Swistir, gan gynnwys y Matterhorn, Monte Rose ac, wrth gwrs, Mont Blanc ei hun.