Aiguille du Midi

Os ydych chi’n awyddus i deithio ychydig ymhellach i gyfeiriad yr Alpau, mae’n werth ymweld â’r Aiguille du Midi. Mae’n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid a gellir teithio i gopa’r Aiguille du Midi ar y car cebl o dref Chamonix, sydd yn mynd â chi mor uchel â 3842 o fetrau uwchben lefel y môr. O’r fan hon, gellir gweld rhai o gopaon mwyaf enwog Alpau Ffrainc, Yr Eidal a’r Swistir, gan gynnwys y Matterhorn, Monte Rose ac, wrth gwrs, Mont Blanc ei hun.