CERN

Canolfan Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear CERN yw un o ganolfannau mwyaf uchel ei pharch yn y byd o ran ymchwil gwyddonol. Yn ystod taith dywys hanner diwrnod, mae cyfle i ddysgu sut mae’r bydysawd yn gweithio ac o beth mae wedi’i wneud, yn ogystal â gweld gwaith labordy ffiseg mwya’r byd. Gall y teithiau gynnwys unrhyw un o’r pynciau canlynol: Gronynnau Cyflymu, Darganfod Gwrthfater and Thechnoleg Gwybodaeth, Cyfrifiadau a Chyfathrebu. Mae dwy arddangosfa barhaol i’w gweld hefyd, sef Universe of Particles a Microcosm. Mae’n bwysig nodi bod angen i bob ymweliad â CERN gael ei archebu’n uniongyrchol gan yr ysgol.