Jet d’eau, Genefa
17th May 2019
|By acadmin
Ffynnon fawr yng nghanol Genefa yw’r jet d’eau ac mae’n un o atyniadau mwyaf enwog y ddinas. Mae i’w weld ar wefan dwristiaeth swyddogol y ddinas ac roedd hefyd yn rhan o’r logo pan groesawodd Genefa Bencampwriaeth UEFA i’r ddinas yn 2008. Mae’r ffynnon wedi ei lleoli yn y man ble mae dŵr Llyn Genefa’n mynd allan i’r Rhône a gellir ei weld o bobman yn y ddinas ac o’r awyr, hyd yn oed wrth hedfan uwchben Genefa ar uchder o 10 cilomedr. Mae pum can litr o ddŵr yn cael eu pwmpio i’r awyr pob eiliad ac mae’n werth gweld y dŵr yn saethu i fyny’n uchel uwchlaw’r ddinas. Mae newid sydyn yn y gwynt yn gallu achosi i rai ymwelwyr ddod oddi yno yn wlyb at eu croen, fodd bynnag, felly mae gofyn bod yn ofalus!
