Musée d’histoire des sciences de la ville de Genève

Amgueddfa fach sydd wedi ei chysegru i hanes gwyddoniaeth yw’r musée d’histoire des sciences de la ville de Genève. Mae’r amgueddfa wedi ei lleoli yn Villa Bartholoni, a gafodd ei dylunio gan Félix-Emmanuel Callet a’i adeiladu yn 1830 fel tŷ haf i fancwyr o Baris, Constant and Jean-François Bartholoni.  Cafodd y fila ei hadnewyddu’n llwyr rhwng 1985 ac 1992. Mae wedi ei lleoli yn y Parc de la Perle du Lac sy’n edrych i lawr ar Lyn Genefa, ac sydd nesaf i Dŷ Gwydr a Gardd Fotaneg dinas Genefa. Mae’r fila a’r amgueddfa wedi eu rhestru yn Rhestr y Swistir o Eiddo Diwylliannol o Bwysigrwydd Cenedlaethol a Rhanbarthol.