Amgueddfa’r Groes Goch Ryngwladol a’r Cilgant Coch

Mae arddangosfa barhaol yr amgueddfa, The Humanitarian Adventure, yn gyfle gwych i edrych ar waith dyngarol ymhob cwr o’r byd. Mae’r arddangosfa’n canolbwyntio ar dair thema – pob un wedi’i seilio ar heriau sy’n wynebu gwaith dyngarol yn y byd modern. Maent wedi eu cyflwyno mewn tri gofod gwahanol, pob un wedi’i ddylunio gan bensaer gwahanol.