Hwyl a Fflag: Teithiau addysgolsy'n ysbrydoli

Diogelwch

Mae pwysigrwydd teithiau ysgol fel gweithgaredd ychwanegol i’r cwricwlwm sy’n cyfrannu at addysg plant a phobl ifanc yn cael ei gydnabod yn eang.

Mae diogelwch y disgyblion yn hollbwysig i bob athro sy’n trefnu taith ysgol o unrhyw fath. Felly, rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siwr bod pob rhan o’r daith yn cydymffurfio â chanllawiau a rheolau iechyd a diogelwch.

Sicrwydd Ariannol

Mae’r Rheoliadau Teithio Pecyn, Gwyliau Pecyn a Theithiau Pecyn 2018 yn datgan bod rhaid i’r arian ry’ch chi’n ei roi i ni am y daith gael ei ddiogelu nes i chi ddychwelyd. Ers 2024, mae Hwyl a Fflag Cyf yn aelod o’r TTA (Travel Trust Association) sy’n golygu bod arian pob cwsmer wedi ei ddiogelu mewn cyfrif hollol annibynnol a’n bod yn cydymffurfio’n llawn â’r ddeddfwriaeth uchod.

Pe byddai Hwyl a Fflag yn methdalu neu’n mynd i ddwylo’r derbynwyr, byddai’r trefniant hwn hefyd yn diogelu eich arian ac yn sicrhau bod modd i’r gwyliau barhau neu bod modd talu i chi ddod adref os ydych chi dramor.

Iechyd a Diogelwch

Mae gennym bolisi rheoli diogelwch cynhwysfawr sy’n sicrhau bod Hwyl a Fflag yn gweithredu systemau cadarn ac yn dilyn gweithdrefnau llym i sicrhau bod pob elfen o ddiogelwch ar y daith wedi ei hasesu ymlaen llaw.

Mae gennym ddiddordeb brwd yn elfen iechyd a diogelwch ein teithiau. Yn ogystal ag archwilio gwestai, canolfannau llety, cwmnïau bysus ac ymweliadau, ry’n ni’n gofyn i’n cwsmeriaid roi gwybod i ni unrhyw ddamweiniau neu ddigwyddiadau sy’n codi yn ystod y teithiau ry’n ni wedi eu trefnu er mwyn i ni fedru cadw cofnod. Cysylltwch â ni os oes rhywbeth o’r natur hon yn digwydd yn ystod eich taith chi.

Mae gennym asesiadau risg ar gyfer nifer o’r gwestai a’r canolfannau ry’n ni’n eu defnyddio, yn ogystal â nifer o’r ymweliadau y gallwch chi eu trefnu trwyddom ni. Gallwn hefyd gynnig cymorth a chyngor ar agweddau diogelwch eich taith.Ry’n ni hefyd yn hybu ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch yn ein gweithle ni er mwyn i bob aelod o staff fod ag agwedd bositif tuag at bwysigrwydd safonau diogelwch uchel

Yswiriant Teithio ar gyfer eich Taith

Mae diogelwch a mwynhad yr un mor bwysig â’i gilydd wrth drefnu teithiau ysgol. Felly, un o’n amodau a thelerau archebu yw bod gennych chi yswiriant teithio priodol cyn i chi deithio, sy’n cynnwys costau meddygol mewn argyfwng, damweiniau personol a dychwelyd adref. Rydym hefyd yn argymell yn gryf eich bod yn cynnwys yswiriant ar gyfer bagiau, atebolrwydd personol a chanslo.

Mae Hwyl a Fflag yn cydweithio â Gwasanaethau Yswiriant Endsleigh Cyfyngedig sydd bellach yn rhan o grŵp Howden. Mae’r cwmni’n cynnig polisi cystadleuol sydd wedi’i deilwra’n arbennig i fodloni gofynion yswiriant teithwyr mewn grŵp.

Prif nodweddion a buddion:

  • Llinell gymorth 24 awr ar gyfer argyfyngau meddygol
  • Costau meddygol brys mewn achos o salwch neu anaf
  • Gwarchod yn erbyn costau canslo neu dorri taith yn fyr
  • Gwarchod rhag colled neu ddifrod i fagiau ac arian personol
  • Ystod eang o chwaraeon a gweithgareddau

Dalier Sylw Mae’n beth da prynu’ch yswiriant teithio wrth archebu eich taith gan y bydd yr yswiriant ar gyfer canslo yn dechrau ar ddyddiad cychwyn y polisi. Byddwch wedi’ch yswirio yn barod rhag ofn y bydd rhaid i chi ganslo’ch taith am reswm sydd wedi’i yswirio fel salwch neu ddamwain ddifrifol sy’n eich atal rhag teithio.